Brawdoliaeth - Tecwyn Ifan
Can: Brawdoliaeth
Geiriau: Waldo Williams
Cantor: Tecwyn Ifan
CD: Wybren Las (http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd-2453)
Mae rhwydwaith dirgel Duw yn cydio pob dyn byw;
Cymod a chyflawn wê Myfi, Tydi, Efe.
Mae'n gwerthoedd ynddo'n gudd, Ei dyndra ydyw'n ffydd;
Mae'r hwn fo'n gaeth yn rhydd.
Mae'r hen frawdgarwch syml tu hwnt i ffurfiau'r Deml.
A'r Lefiad heibio i'r fan, plyg y Samaritan.
Myfi, Tydi, ynghyd er holl raniadau'r byd -- efe'n cyfannu'i fyd.
Mae Cariad yn dreftâd tu hwnt i Ryddid Gwlad.
Cymerth yr Iesu ran yng ngwledd y Publican.
Mae concwest wych nas gwêl y Phariseaid sêl.
Henffych y dydd y dêl.
Mae Teyrnas gref, a'i rhaith yw cydymdeimlad maith.
Cymod a chyflawn wê Myfi, Tydi, Efe, a'n cyfyd uwch y cnawd.
Pa werth na thry yn wawd pan laddo dyn ei frawd?
Dyma Tecwyn Ifan yn canu geiriau cerdd Waldo Williams -- 'Brawdoliaeth.' Yn y gerdd hon mae Waldo yn pwysleisio'r angen am heddwch a chariad ar draws y byd.