Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Subscribers:
1,860
Published on ● Video Link: https://www.youtube.com/watch?v=3Ntu7srp9JI



Duration: 58:00
7 views
0


Tirwedd Bwyeill Neolithig yng Ngogledd Eryri

Canlyniadau gwaith maes prosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Amgueddfa Penmaenmawr ac ysgolion lleol yn edrych ar archaeoleg cenedlaethol pwysig yr ardal a phennau bwyeill Neolithig, gyda John Griffith Roberts

Cyflwyno canlyniadau gwaith gan wirfoddolwyr ac archaeloegwyr proffesiynol ar gynhyrchu pennau bwyeill 6,000 o flynyddoedd yn ôl (y cyfnod Neolithig) yn un o’r tirweddau chwarela bwyeill mwyaf hynafol yng Ngwledydd Prydain, yn ucheldiroedd Penmaenmawr a Llanfairfechan.

Caiff pennau bwyeill cerrig cain o ucheldiroedd Penmaenmawr a Llanfairfechan eu darganfod led-led Cymru a Lloegr. Cawsant eu cynhyrchu rhwng 6,000 a 5,000 o flynyddodd yn ôl a’u cyfnewid o law i law rhwng cymunedau. Mae nifer ohonynt wedi’u sgleinio yn fendigedig gan greu arteffactau trawiadol sy’n amlygu ansawdd y garreg. Mae’r rhinwedd yma, ynghyd â’r ffaith eu bod yn cael eu darganfod mewn lleoliadau pellennig yn golygu eu bod yn eitemau o fri ac yn hynod bwysig, yn ogystal â’u bod yn offerynau ymarferol.

Cafodd dystiolaeth o chwarela cerrig pennaeu bwyeill ei archwilio’n gyntaf ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yng Nghraig Lwyd, Penmaenmawr, o amgylch y chwarel ithfaen modern. Mae’r ardal bellach yn gyfystyr â’r bwyeill, ond mae carreg o ddaeareg debyg iawn, sy’n addas ar gyfer creu bwyeill (carreg folcanig gyda graen mân) yn bresennol yn ehangach yn y dirwedd ucheldirol hon. Fel rhan o Gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, ers 2019, mae gwirfoddolwyr dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wedi bod yn archwilio rhai o’r tarddleoedd hyn. Maent yn cloddio tyllau prawf er mwyn adfer tystiolaeth ar gyfer gwaith pennau bwyeill ar ffurf fflawiau gwastraff a phennau bwyeill anghyflawn sydd wedi’u taflu. Mae’r gwaith yn helpu creu dealltwriaeth mwy soffistigedig o fywyd a gwaith yn y dirwedd hynafol a darlun mwy cytbwys na’r un a ddominyddodd ar sail y darganfyddiadau pellennig yn unig.

Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth lleol o’r dirwedd hynafol bwysig a diddorol hon. Drwy bartneriaeth gydag Amgueddfa Penmaenmawr ac ysgolion lleol, mae cenhedlaeth newydd yn dargangod archaeoleg cenedlaethol bwysig yr ardal. Bydd y sgwrs yma yn cyflwyno gwybodaeth bellach am y pennau bwyeill Neolithig a chanlyniadau gwaith maes y prosiect hyd yma.