Trysor - Caru ti gyda lyrics
Can: Caru ti
Geiriau a cherddoriaeth: Martyn Geraint
Grwp: Trysor (Carina Galozzi, Angharad Morgan, Caroline Cowles)
CD: Caru Ti
Rwy'n caru ti, caru ti - meddwl amdanat ti
caru ti, caru ti nawr,
rwy'n caru ti, caru ti - meddwl y byd ohonot ti
caru ti, caru ti'n fawr
Ar hyd y dydd - mae pob un cyfnod - yn llawn ohonot ti,
breuddwydio - am ymuno - gyda ti - gyda ti!!
Mae 'mhen yn dychmygu - dy freichie'n cydio'n dynn,
mae 'mreichie yn crefu - i afael yn yr hyn dwi'n garu!
Rwy'n caru ti, caru ti - meddwl amdanat ti
caru ti, caru ti nawr,
rwy'n caru ti, caru ti - meddwl y byd ohonot ti
caru ti, caru ti'n fawr
Ac yn y nos - pan mae'r cloc 'di rhewi
a'r bys yn gwrthod symud - symud yn ei flaen,
a minnau'n wyllt - yn flin - heb gysgu
yn gwrthod derbyn munud mwy - na sy'n rhaid hebddot ti.
Rwy'n caru ti, caru ti - meddwl amdanat ti
caru ti, caru ti nawr,
rwy'n caru ti, caru ti - meddwl y byd ohonot ti
caru ti, caru ti'n fawr
Ty'd yn nes - ty'd yn nes - ty'd yn nes - ty'd allan o'r gwres
ty'd yn nes - ty'd yn nes - ty'd yn nes - yn barod am wers dy fywyd
ty'd yn nes - ty'd yn nes - ty'd yn nes - os wyt am ddysgu
mewn gwers sy' 'di paratoi'n arbennig i ti -
('di paratoi yn arbennig i ti!)
Rwy'n caru ti, caru ti - meddwl amdanat ti
caru ti, caru ti nawr,
rwy'n caru ti, caru ti - meddwl y byd ohonot ti
caru ti, caru ti'n fawr
Ychydig orei - yn troi'n flynydde
wrth imi ddisgwyl - amdanat ti,
ond yn y bore - fe wna i fy ngore
i wireddu'r breuddwydion - pan fydd dau yn un!
Yfory, yfory, rwy'n meddwl am yfory
yfory, yfory, rwy'n meddwl am yfory
yfory, yfory, ryw'n meddwl am yfory
paid a gwneud - paid a gwneud i 'nghalon i dorri.
Rwy'n caru ti, caru ti - meddwl amdanat ti
caru ti, caru ti nawr,
rwy'n caru ti, caru ti - meddwl y byd ohonot ti
caru ti, caru ti'n fawr
Diolch am wylio. Plis 'suscribe'wch!!!