Trysor - Tair ohonon ni
Can: Tair ohonon ni
Geiriau a cherddoriaeth: Martyn Geraint
Cantorion: Trysor (Carina Galozzi, Angharad Morgan, Caroline Cowles)
CD: Caru ti
Tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
ie tair ohonon ni efo pwy fydd o'n caru heno heno? heno heno?!
Welais i fo gynta - ar y ffordd i'r dre
welais i fo wedyn - dwi'm yn cofio lle
welais i fo'n ola' - rwy'n cyfaddef yn wir
ond y fi mae o'n ei charu ac mae'n caru am yn hir!
Tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
ie tair ohonon ni efo pwy fydd o'n caru heno heno? heno heno?!
Efo fi wnaeth o siarad - efo fi wnaeth o ddweud
efo fi wnaeth o symud - efo fi wnaeth o wneud
efo fi wnaeth o aros - efo fi wnaeth o feddwl
gwario'r cyfnod nesa (y! y!) paid a dadla!
Tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
ie tair ohonon ni efo pwy fydd o'n caru heno heno? heno heno?!
Heno daw o ata'i heno mi ddiflanna'i i'r tywyllwch
heno - paid a mwydro
heno mae o'n crwydro i'r anialwch,
heno mae o'n digwydd - ie heno mae o'n digwydd bod yma efo fi!
Tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
tair ohonon ni - un ohono fo,
ie tair ohonon ni efo pwy fydd o'n caru heno heno? heno heno?!
Pwy yw hwn?
pwy yw'r jiawl?
pwy mae'n feddwl ydy o?
sgynno fo mo'r hawl
pwy sydd am gadw? (y? y?)
pwy sydd am fflich?
oes angen y dynion?
na - mae'r genod yma'n wych!! ww!!
Tair ohonon ni - dim un ohono fo,
tair ohonon ni - dim un ohono fo
tair ohonon ni - dim un ohono fo
ac efo'r tair ohonon ni fe gawn ganu a chanu heno heno!!
heno heno!!
diolch am wylio! plis 'suscribe'wch!