Angharad Brinn - Hedfan Heb Ofal (gyda geiriau)
Can: Hedfan Heb Ofal
Cantores: Angharad Brinn
CD: Hel Meddylie
http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=250233
Dwed, ydi un a un yn ddau? Ydi e'n fwy neu'n llai? S'dim yn gwneud 'run synnwyr ar hyn o bryd.
Ac er, fod fy myd a'i ben i lawr, s'mo fi'n becso fawr, dwi'she teimlo fel hyn o hyd.
Rho i mi heol hir. Rho i mi awyr glir. Rho i mi adenydd fel caf...
Hedfan heb ofal. Hedfan i'r cymyle fry. Hedfan i unman yng nghol y gwynt. Hedfan heb gyngor.
Dim ond gyda 'ngobaith i, y caf rannu popeth gydag un fel ti.
Dwed, ydi popeth fel o'r blaen? Neu tu ol ymlaen. Ydi'r wawr a'r machlud yn un yn awr?
Ac er, fod fy myd tu fewn tu mas, s'mo fi ar hast i newid dim -- ma'n iawn fel y mae.
Rho i mi oriau, rho i mi dy air. Yna daw'r adenydd fel caf...
Hedfan heb ofal. Hedfan i'r cymyle fry. Hedfan i unman yng nghol y gwynt. Hedfan heb gyngor.
Dim ond gyda 'ngobaith i, y caf rannu popeth gydag un fel ti.
A'r adegau fel hyn, mae gwyrthiau'n digwydd. Mae'r anhebygol, yr amhosibl yn dod yn wir. Yn wir.
Hedfan heb ofal. Hedfan i'r cymyle fry. Hedfan i unman yng nghol y gwynt. Hedfan heb gyngor.
Dim ond gyda 'ngobaith i, y caf rannu popeth gydag un fel ti.
Gydag un fel ti.