Einir Dafydd - Eira Cynnes (gyda geiriau)

Channel:
Subscribers:
1,840
Published on ● Video Link: https://www.youtube.com/watch?v=YpjZ5UUODmY



Duration: 3:54
1,694 views
16


Artist: Einir Dafydd
Can: Eira Cynnes
EP: Ffeinida fi

Y ma'r parti'n cau amdana'i,
ma' fy mhen i'n troi i gyd,
ac ma'r gwin a'r mwg a'r drymie'n
curo'n gynt a chynt o hyd.
Ma' nhw'n whare'r hen recordie,
ma' fy ffrindie'n troi yn sgrech;
wrth i'r noson wasgu arna'i,
y ma'r dathlu'n mynd yn drech.

Wedi morio Merry Christmas!,
wedi dala dwylo'n dynn;
wedi dawnsio o dan dinsel,
ma'n rhaid jiengyd o fan hyn.

A do's dim i darfu arna'i;
'sdim i'w glywed dros y byd;
dim ond swn anadlu tyner,
swn anadlu tyner,
swn y baban yn ei grud.

Mas i'r noson fowr, agored,
mas i'r awyr dywyll iach,
lle ma' dafne o dawelwch
arna i'n disgwyn gan bwyll bach.

Ar fy nhalcen, teimlaf gysur
ergyd swil o'r gawod ser;
cusan wen yn cosi'n wyneb,
pluen wen yn lleddfu'r mer.

A do's dim i darfu arna'i;
'sdim i'w glywed dros y byd;
dim ond swn anadlu tyner,
swn anadlu tyner,
swn y baban yn ei grud.

Rwy'n teimlo'r eira heno
yn cynhesu 'nghalon i;
fesul pluen ysgafn, ddisglair,
yn goleuo'r noson ddu.

A do's dim i darfu arna'i;
'sdim i'w glywed dros y byd;
dim ond swn anadlu tyner,
swn anadlu tyner,
swn y baban yn ei grud.







Tags:
einir
dafydd
ffeindia
fi
eira
cynnes
can
caneuon
nadolig
nadoligaidd