Trysor - Curo yn y cymoedd
Can: Curo yn y cymoedd
Geiriau a cherddoriaeth: Martyn Geraint
Cantorion: Trysor (Carina Galozzi, Angharad Morgan, Caroline Cowles)
CD: Caru ti
Pa obaith sydd i'r cymoedd cwsg?
does dim byd da yn para,
problem ar bob cornel sy'
a dadleuon fel pla.
Fe aeth y dyddiau difyr,
fe aeth y gwaith a phob diwydiant,
fe aeth yr hanes cynnar
gan adael m'ond diwylliant prin.
Ond mae 'na guro yn y cymoedd
mae pawb yn symud 'mlaen
curo yn y cymoedd, mae'r cymoedd ar dan
curo yn y cymoedd o'r galon i'r pridd
ac fe gurwn ni'r culni ac fe dorrwn ni'n rhydd!!
Do - fe aeth gorffennol a newid fydd yn rhaid,
ac oes - mae tro ar fyd yn dod daw'r haul yn ol yn danbaid!
yn barod daeth y gwyrddni,
yn barod daeth dechre ar y daith,
yn barod daeth cenhedlaeth newydd yn siarad yr heniaith.
Ac mae 'na guro yn y cymoedd
mae pawb yn symud 'mlaen
curo yn y cymoedd, mae'r cymoedd ar dan
curo yn y cymoedd o'r galon i'r pridd
ac fe gurwn ni'r culni ac fe dorrwn ni'n rhydd!!
Wyt ti am fod yn atgof 'di claddu dal y glo?
neu a oes gen ti'r ysbryd sy'n dy yrru di i ymuno a ni?!
Curo yn y cymoedd
mae pawb yn symud 'mlaen
curo yn y cymoedd, mae'r cymoedd ar dan
curo yn y cymoedd o'r galon i'r pridd
ac fe gurwn ni'r culni ac fe dorrwn ni'n rhydd!!